Logo gyda chylchoedd lliwgar  Disgrifiad wedi'i gynhyrchu'n awtomatig             

 

COFNODION Y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant a Theuluoedd

29 Tachwedd 2023, rhwng 10.30am ac 11.30am

 

Mynychwr ac Ymddiheuriadau

Cross Party Group Children & Families

Date: 29 November 2023; 10.30am – 11.30am

Venue: Ty Hywel & online via Teams

Organiser: Sean O’Neill, Policy Director, Children in Wales & Jane Dodds, MS

Name

Organisation

Email

Jane Dodds MS

Senedd Cymru

 

Rhys Taylor

Senedd Cymru

 

Sioned Williams MS

Senedd Cymru

 

Phoebe Jenkins

Senedd Cymru

 

Hugh Russell

Children in Wales

 

Sean O’Neill (online)

Children in Wales

 

Louise O’Neill (online)

Children in Wales

 

Joanne Hopkins

Public Health Wales

 

Claire Williams (online)

Cwm Taf Youth Offending Service

 

Cherrie Bija (online)

Faith in Families

 

Lisa Roberts (online)

RCPCH

 

Anna Westall (online)

Children in Wales

 

Rebekah Millar

Care for the Family

 

Liz Gregory (in person)

Parent Infant Foundation

 

Dave Goodger

Early Years Wales

 

Sarah Durrant

TGP Cymru

 

Sharon Lovell (online)

NYAS Cymru

 

Sian Cox (online)

Powys County Council

 

Marianne Mannello (online)

Play Wales

 

Alex Williamson

Wave Trust

 

Max Pearson

Office of John Griffiths, MS

 

Eleri Griffiths

Office of Heledd Fychan MS

 

Tina Foster (online)

TGP Cymru

 

Sarah Thomas (in person)

Fostering Network Wales

 

Dave Williams (online)

Aneurin Bevan UHB

 

Apologies

Llyr Gruffydd, MS

Peredur Owen Griffiths, MS

Catrin Glyn, Carers Trust

Melissa Wood, Barnardo’s Cymru

Mark Carter, Barnardo’s Cymru

Delyth Jewell, MS

Rhian Smith, Fostering Network

Cecile Gwilym, NSPCC

Hannah Williams, Social Care Wales

Katie Palmer, Cardiff & Vale UHB

Nigel Patrick Thomas

Samantha Baron, BASW

 

1.      Croeso

Croesawodd Jane Dodds AS a Chadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol hwn bawb i’r cyfarfod, gan fynd drwy’r pedair thema a drafodwyd mewn cyfarfodydd yn ystod 2023 – Gwasanaethau Trothwy Gofal; 1000 Diwrnod Cyntaf; Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) a Thlodi Plant. Bydd cyfarfod heddiw yn canolbwyntio ar ACEs ac nid ydym eto wedi cadarnhau dyddiad ar gyfer cyfarfod ar y cyd â’r Grŵp Trawsbleidiol Tlodi Plant a’r Prif Weinidog. Bydd hyn yn cael ei gadarnhau cyn gynted â phosibl.

 

Mae rhestr lawn o'r rhai a oedd yn bresennol a’r ymddiheuriadau a gafwyd ynghlwm.

 

2.      Hyb ACE Cymru – cefnogi uchelgais Cymru: cenedl sy’n ystyriol o drawma

Dr Joanne Hopkins, Cyfarwyddwr Hyb ACE Cymru

·         Sefydlwyd yr Hyb yn 2017 ac mae ganddo 16 o staff erbyn hyn

·         Bydd hanner y boblogaeth wedi profi ACE, heb y cyfle i gael cymorth. Mae risg negyddol bosibl i iechyd, canlyniadau cymdeithasol, cwrs bywyd

·         Mae angen codi ymwybyddiaeth ac addysgu’r gymdeithas

·         Yn 2021, comisiynodd Julie Morgan AS adolygiad o ACEs yng Nghymru ac roedd yr Hyb ACE yn ganlyniad i hynny

·         Deall y berthynas rhwng pedwar ACE a risg uwch

·         Deall effaith adfyd yn ystod plentyndod – yn dibynnu ar fynediad at gymorth

·         Yn cael ei arwain gan anghenion ac yn seiliedig ar gryfderau

·         Mae’r Hyb ACE wedi dylunio gwefan ac mae pecyn cymorth TRACE ar gael i sefydliadau ddysgu sut i ddarparu arferion mwy gwybodus am drawma: https://hybacecymru.com/cymorth-trace/

·         Cynhadledd i’w chynnal ym mis Chwefror 2024 – manylion i ddilyn

·         Mae’r Hyb ACE yn cynorthwyo’r rhai sy’n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau, colegau addysg bellach, dwy brifysgol (Aberystwyth a Wrecsam), a sefydliadau eraill gan gynnwys tai a Heddluoedd Gogledd a De Cymru.

·         Dros y 18 mis diwethaf, mae’r Hyb ACE wedi bod yn gweithio gyda Straen Trawmatig Cymru i gydgynhyrchu gwaith ar y cyd (gyda chymorth Llywodraeth Cymru)

·         Pedair lefel ymarfer, gan gynnwys Cynhwysiant (ar gyfer y rhai sy'n profi gwahaniaethu)

 

 

3.      Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Cwm Taf - Canllawiau Ymarfer Seiliedig ar Berthynas: Dull wedi ei lywio gan drawma ac ACE (TraCE).

Claire Williams, Rheolwr Tîm

·         Gweler sleidiau'r cyflwyniad ynghlwm

·         Rhan o dreial Rheoli Achosion Uwch De Cymru a archwiliodd sut mae ACEs wedi effeithio ar ddatblygiad plant

·         Roedd gan y boblogaeth cyfiawnder ieuenctid lefelau uwch o ACE

·         Asesiad wedi ei lywio gan drawma, llinell amser a mapio datblygiad pob plentyn

·         Mae pob aelod newydd o staff yn cael cyfnod cynefino yn seiliedig ar drawma

·         Gweithio i gael yr holl asiantaethau i gymryd rhan yn y dull seiliedig ar drawma

·         Dau weithiwr cymdeithasol sy'n arwain ar y dull hwn fel 'hyrwyddwyr tîm'

·         Gwneud iawn / cyfiawnder adferol – lle’r oedd trawma wedi effeithio ar ddatblygiad, nid oedd gan y plentyn y sgiliau i ymgysylltu â hyn. Cyflwyno cyfiawnder adferol mewn ffordd sy'n seiliedig ar drawma

 

4.      Cwestiynau ac arsylwadau

 

Jane Dodds AS i Jo Hopkins -

Mae gennyf ddiddordeb yn y cysyniad o'ch gwasanaeth yn peidio 'labelu' plant – a yw hynny oherwydd adborth gan bobl nad ydynt eisiau defnyddio'r iaith honno ynteu ai dyna beth rydych chi wedi dewis ei wneud?

Mae'n dipyn o'r ddau. Mae cydraddoldeb yn bwysig i ni ac ar ôl cael sgyrsiau gyda rhieni, cymunedau ac ati, maent yn teimlo bod angen gwell cymorth arnynt a pheidio â chael eu labelu.

 

Jane – gall fod i’r gwrthwyneb lle mae pobl yn elwa ar label a gellir ei ddefnyddio fel mecanwaith ymdopi.

 

Jane Dodds AS i Claire Williams -

Mae'r gwaith rydych chi'n ei wneud yn drawiadol ac yn ddiddorol iawn.  Ydych chi'n gweithio gyda'r farnwriaeth ar hyfforddiant a dedfrydu sy'n seiliedig ar drawma? Os felly, a ellid cyflwyno'r arfer hwn ar draws gwasanaethau troseddau ieuenctid eraill?

 

Ydym, rydym yn gweithio'n agos gyda'r farnwriaeth a cheir hyfforddiant rheolaidd. Mae ynadon yn ymwneud â chyfarfodydd llinell amser ac mae adroddiadau ar eu cyfer bellach yn symud tuag at gael eu llywio gan drawma. Mae cyfres o weithdai ar roi hyn ar waith yn y gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid wedi cael eu cynnal ac adnoddau wedi eu llwytho i fyny i hyb y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid. Mae’r rhain wedi cael eu rhannu ar draws Cymru a Lloegr.  Yn ogystal, y gobaith yw sefydlu Rhwydwaith o Wasanaethau Troseddau Ieuenctid.

 

Sioned Williams AS i Claire Williams -

Mae'n drawiadol bod gwybodaeth ac offer yn cael eu rhannu'n ehangach. Dim ond meddwl tybed sut mae'r ddau weithiwr cymdeithasol arweiniol y soniasoch amdanynt yn cael eu cyllido ac a yw pethau yr un fath i Wasanaethau Troseddau Ieuenctid eraill?

 

Argymhellodd gwerthusiad o’r gwasanaeth a gynhaliwyd gan Brifysgol Bangor y dylid cael gweithiwr “arweiniol”. Nid yw’r ddau weithiwr cymdeithasol sydd gennym yn rolau arweiniol penodedig ac maent yn rhan o waith cymdeithasol cyffredinol; fodd bynnag, mae eu gwaith wedi ei lywio gan drawma yn rhan gynhenid o’r fframwaith erbyn hyn.

 

David Goodger, Blynyddoedd Cynnar Cymru – Byddai gennyf ddiddordeb mewn cysylltu â’r ddau siaradwr gan fod y blynyddoedd cynnar mor bwysig.  Yn ddiweddar yng nghyfarfod Grŵp Cynghori’r Blynyddoedd Cynnar, edrychwyd ar sut gallwn gefnogi’r gweithlu Blynyddoedd Cynnar ymhellach a datblygu astudiaethau achos ar sut mae sefydliadau’n defnyddio dull sy’n seiliedig ar drawma, ond nad ydynt o bosibl yn ymwybodol eu bod yn gwneud hynny.

 

Sharon Lovell, NYAS Cymru – cadarnhawyd bod holl staff eiriolaeth NYAS wedi cael hyfforddiant seiliedig ar drawma. Ymagwedd gymunedol ac oedolion y gellir ymddiried ynddynt – beth yw hyn? Effaith ar waith ieuenctid a phwysigrwydd gwaith ieuenctid a chwarae?

 

Mark i Claire Williams -

Diddordeb mawr yn y dull cyfiawnder adferol a gwreiddio'r dull cymunedol. Dull rhyngddisgyblaethol – a oes unrhyw ryngweithio â dalfeydd?

 

Gwneir llawer o waith cymunedol, ac rydym yn darparu gwaith un-i-un gydag oedolion y gellir ymddiried ynddynt.  Mae llawer o waith “empathi i ddioddefwyr” yn cael ei wneud fel y gellir cwblhau tasgau cyfiawnder adferol.  Mae gwaith yn cael ei wneud gyda’r Prosiect Ymgysylltu â Phobl Ifanc ym Merthyr Tudful pan fydd plentyn yn cael ei gymryd i’r ddalfa ac yna’n barod i gael ei ailgyflwyno i’r gymuned.

 

Tina Foster, TGP Cymru – byddai’n bendant yn werth sefydlu cysylltiad rhwng y siaradwyr a TGP, a fu’n rhedeg prosiect wedi ei gyllido am dair blynedd yn ymwneud â dulliau adferol a ddaeth i ben ychydig flynyddoedd yn ôl.

 

Marianne Mannello, Chwarae Cymru – mae angen ystyried rôl chwarae wrth gefnogi plant drwy drawma. Rydym wedi dechrau’r broses o gynnig hyfforddiant wedi ei lywio gan drawma i weithwyr chwarae mewn lleoliadau cymunedol. Yn anecdotaidd, mae plant hŷn yn dangos arwyddion o amddifadedd chwarae.

 

Alex Williamson, Wave Trust i Jo Hopkins -

A yw Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i’r agenda ACE, gan y gofynnwyd i’r Prif Weinidog dair blynedd yn ôl beth oedd y Senedd yn ei wneud ynghylch ACE, a’r ateb oedd ‘nad oedd digon o bŵer datganoledig.’ Yn ogystal, a yw’r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymwneud â hyn?

 

Mae Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i ddatblygu yn y maes hwn ac mae cyllid parhaus ar gyfer y Ganolfan ACE yn brawf o hynny. Yn ogystal, mae'r llywodraeth yn gwbl ymroddedig fod gan bob plentyn yr hawl.

 

Treuliwyd llawer iawn o amser yn cyfathrebu â'r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol – mae ystadegau pwysig ar y wefan ac mae grwpiau ymarfer cymunedol.

 

Diolchodd Jane Dodds AS i'r ddau siaradwr am eu cyflwyniadau addysgiadol iawn ac i aelodau'r grŵp am eu cyfraniadau.

 

Camau gweithredu

 

Gwneud cysylltiadau â'i gilydd - dosbarthu gwefannau a chyfeiriadau e-bost siaradwyr

 

Trefnu sesiwn foreol yn y Senedd ar ACE. Trefnu rhag-gyfarfod ym mis Ionawr gydag aelodau'r grŵp hwn i gynllunio

 

Mae cryn dipyn o arfer da o gwmpas, ond dylai pob Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid ddilyn arweiniad Cwm Taf. Mae angen bwrw ymlaen â hyn

 

 

5.      Diweddariad ar Sylwadau Terfynol y Cenhedloedd Unedig

Sean O'Neill, Plant yng Nghymru

Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunwyd y dylid rhoi sylw i’r eitem hon ar agenda’r cyfarfod nesaf.

 

 

6.      Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar gyfer y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant a Theuluoedd

Agorodd Jane Dodds AS y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a siaradodd Louise O’Neill o Plant yng Nghymru am Adroddiad Blynyddol 2023 sydd ynghlwm.

 

Ceisiwyd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd yn y dyfodol – cynigiwyd Jane Dodds gan Sioned Williams ac eiliwyd yr enwebiad gan Alex Williamson. Ni fynegwyd gwrthwynebiad.

 

Ceisiwyd enwebiadau ar gyfer Is-Gadeirydd yn y dyfodol – enwebwyd Sioned Williams gan Jane Dodds. Ni fynegwyd gwrthwynebiad.

 

Ysgrifenyddiaeth wedi ei phenodi – Louise O'Neill, Plant yng Nghymru.

 

Cymeradwywyd yr Adroddiad Blynyddol.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben a chadarnhawyd y dyddiadau ar gyfer y dyfodol fel a ganlyn:

 

24.01.24, 10.30-11.30 (hybrid)
20.03.24, 10.30-11.30 (hybrid)

22.05.24, 10.30-11.30 (hybrid)

25.09.24, 10.30-11.30 (hybrid)

04.12.24, 10.30-11.30 (hybrid)